Parc Maenordy Scolton: mwy na 60 erw o dreftadaeth a hwyl Sir Benfro, yn rhedeg yn gynaliadwy er lles y gymuned leol a’r amgylchedd
Mae Scolton wedi cael ei reoli a'i weithredu gan Gyngor Sir Penfro ers 1972, pan gafodd ei werthu i Gronfa Eglwys Cymru gan y Cyrnol Jack Higgon. Gwerthwyd Scolton a oedd yn eiddo’r teulu Higgon am bron i bedair canrif, ar yr amod ei fod yn cael ei redeg er budd a mwynhad y cyhoedd am byth.
Hanner canrif yn ddiweddarach, rydym yn dathlu ein hanner canmlwyddiant fel canolbwynt diwylliant a chadwraeth Sir Benfro, ac fel safle sy'n rhoi hwyl i'r teulu cyfan gan gyfrannu'n ystyrlon at yr amgylchedd a'r gymuned leol. Mae gwaith aruthrol wedi’i wneud gan dîm Scolton a'n gwirfoddolwyr a'n cyd-weithwyr gwerthfawr niferus i droi'r faenor a'r parc yn gyrchfan sy'n cynnig rhywbeth i bawb.
Teulu Scolton
Mae tîm Scolton yn cynnwys nifer fach o staff yr awdurdod lleol ac amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n gilydd i redeg, cynnal a datblygu'r safle a sicrhau ei fywiogrwydd parhaus fel un o brif gyrchfannau Sir Benfro ar gyfer trigolion lleol a thwristiaid fel ei gilydd.
Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd i bob un ohonom. Ond wrth i Sir Benfro a'r byd ehangach ddod allan o'r pandemig, mae’n bleser estyn croeso cynnes i chi a'ch teulu i Barc Maenordy Scolton!
Mark Thomas, Rheolwr Amgueddfeydd
Cait Hilditch, Swyddog Casgliadau
Nikki Caldwell, Swyddog Dysgu Amgueddfeydd a Pharciau Gwledig
David Wynn, Swyddog Gweithrediadau
Kai Williams, Warden y Parc
Simon Richards, Prif Arddwr