Sesiwn Gwrthrych Dirgel Fictoraidd
- Sesiwn hwyliog, ymarferol, lle bydd y plant yn dysgu trwy geisio adnabod swyddogaeth amrywiol gwrthrychau cartref hanesyddol.
- Gall ddigwydd naill ai ym Maenordy Scolton, neu yn yr ystafell ddosbarth.
- Addas ar gyfer 7-11 oed.
- Gall gynnwys hyd at 30 o blant.
- Hyd tua 1–2 awr / £3 y plentyn
Sesiwn Archwiliwr Coetir
- Yn darparu profiad ymarferol o fywyd gwyllt a phlanhigion Sir Benfro mewn amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys coetiroedd naturiol a dolydd
- Gellir ei deilwra i'r Cyfnod Sylfaen neu CA2
- Yn gallu darparu ar gyfer hyd at 30 o blant
- Hyd 2–4 awr / £3 y plentyn
Taith Wenyna
- Taith dan arweiniad Cymdeithas Gwenwynwyr Sir Benfro o Ganolfan Wenyna Sir Benfro
- Yn addas ar gyfer CA2 i fyny
- Yn gallu darparu ar gyfer hyd at 30 o blant
- Hyd 1 awr / £2 y plentyn
Adeiladu Eich Blwch Adar eich Hun
- Ar gael drwy Siop yr Orsaf
- Addas ar gyfer CA2
- Yn gallu darparu ar gyfer hyd at chwech o blant
- Hyd 30 munud / £4 y plentyn
- Lawrlwythwch ragor o wybodaeth yma
Blychau Adnoddau
- Blychau Adnoddau i blant y Cyfnod Sylfaen eu defnyddio ar y safle ym Mharc Scolton
- £2 y plentyn
Gallwn hefyd ddarparu deunyddiau am ddim ar gyfer dysgu oddi ar y safle. Mae’r 'Blychau Darganfod' yn cynnwys deunyddiau sy'n ymwneud â phynciau hanesyddol, gan gynnwys hanes, ffydd a gwyddoniaeth; Mae pecynnau 'Degawdau' yn cynnwys ystod o ddeunydd sy'n dangos hanes degawdau o 1900–1989. Holwch am fwy o fanylion.