Exterior of Edie's tea room

Cynadleddau, Digwyddiadau Cymdeithasol a Chyfarfodydd

Gellir llogi Siop Lyfrau Cwtsh, sydd wedi'i lleoli wrth ymyl Ystafell De Edie, fel man cyfarfod ar gyfer 15–20 o bobl. Gellir darparu lluniaeth am gost ychwanegol hefyd.

Mae digwyddiadau rheolaidd yn Scolton yn cynnwys y gymdeithas cymorth dementia fisol Haver Natter, mamau newydd yn dod at ei gilydd, grwpiau hen feiciau modur a beiciau modur clasurol, a'r digwyddiad Atgofion Chwaraeon ar gyfer cefnogwyr chwaraeon hŷn. 

Dylid cyfeirio pob ymholiad at Ystafell De Edie: 01437 731667 /  marty.andrews@pembrokeshire.gov.uk

Aerial view over scolton's playground and welcome centre

Arddangosfeydd, Marchnadoedd a Ffeiriau

Mae Parc Maenordy Scolton yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys ffeiriau crefft, arddangosfeydd a nosweithiau paranormal yn y maenordy a gŵyl Welshstock yn y parc. 

Cysylltwch â ni os hoffech drafod cynnal eich digwyddiad yn Scolton!