
Y Tîm Gwyrdd:
Mae gwirfoddolwyr yn cwrdd ddwywaith yr wythnos i helpu'r Prif Arddwr gyda gweithgareddau garddwriaethol sy'n gysylltiedig â datblygu'r Ardd Furiog a'r ystâd. Croeso i chi gysylltu â ni fynegi eich diddordeb neu i drafod gwirfoddoli.

Y Tîm Stêm:
Ffurfiwyd yn 2019 i helpu gyda phrosiect yr Ardd Reilffordd, mae'r grŵp hwn bellach yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos i weithio i warchod, dehongli a gwella mynediad i dreftadaeth reilffyrdd Sir Benfro. Cysylltwch â'r Tîm Stêm os hoffech wirfoddoli.
Mae Tîm Stêm Scolton yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â nhw ar gyfer 2025!
Prosiect MAWR eleni yw adfer Wagon Deithiol Varda, nad yw wedi bod yn cael ei harddangos yn Scolton ers dros ddegawd. Pan fydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau bydd y Varda yn dod yn arddangosfa barhaol ym Mharc Maenordy Scolton.
Rydym yn chwilio am bobl frwd, egnïol o bob oed a phrofiad gydag ychydig o amser rhydd, sydd â diddordeb mewn gwaith coed, peintio, gwaith dylunio artistig neu roi cynnig ar rywbeth newydd!
Os ydych chi'n barod i fynd yn flêr, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â llawer o bobl newydd yna mae gennych chi'r cymwysterau iawn!
Eisiau ymuno â Thîm Stêm Scolton?
E-bostiwch catriona.hilditch@pembrokeshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro:
Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro i hyrwyddo cadw gwenyn yn y sir a diogelu poblogaethau gwenyn mêl lleol. Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan a gweithio gyda Chymdeithas Gweynynwyr Sir Benfro.
