Gyda chasgliad o ffotograffau hyfryd, a phob un wedi’u tynnu ar dir Parc Maenordy Scolton gan y ffotograffydd lleol dawnus, Maurice van der Velden, byddwch yn gallu cael cipolwg ar amrywiaeth o fflora a ffawna nad ydych fel arfer yn eu gweld.
Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd o ddydd Sadwrn 25 Mai hyd 31 Hydref, rhwng 11am a 5pm (gyda’r mynediad olaf am 4.30pm). Mae mynediad i’r arddangosfa wedi’i gynnwys yn y mynediad i’r maenordy.