Diwrnod Agored Gardd Furiog

Dewch draw i archwilio ein Gardd Furiog fel rhan o Ddiwrnodau Agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol gan helpu i godi arian ar gyfer eu helusennau dewisol.

Ychwanegu Gweithgaredd at eich Cynlluniwr
Manylion
Dyddiadau Agor
Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 Medi
Amseroedd Agor
10am - 4pm
Pris
£5 oedolion, plant am ddim

Wedi’i lleoli ar ben ein safle, y tu hwnt i’r Maenordy, mae ein Gardd Furiog yn atyniad allweddol o fewn ein 60 erw o barc a choetir, gan gynhyrchu cynnyrch organig a blodau.

Mae nodweddion eraill yn cynnwys bwa helyg, cwt pîn-afal (sydd wedi'i gladdu'n barti at ddibenion inswleiddio), borderi lluosflwydd ac arboretum.

Yn ddiweddar rydym wedi caffael casgliad o 60 salvia (a leolwyd yn flaenorol yng Ngardd Furiog Llandyfái) ac rydym hefyd yn gweithredu meithrinfa goed o goed brodorol o Orllewin Cymru.  Wedi’u tyfu o hadau ar gyfer grwpiau elusennol lleol, cynghorau ac ysgolion i’w plannu mewn perthi, coetiroedd a chaeau, y gobaith yw y bydd y coed brodorol hyn yn parhau i ffynnu am gannoedd o flynyddoedd i ddod. 

Mae’r Ardd Furiog yn rhan o gynllun ‘Un Ardd Hanesyddol’, a ariennir yn rhannol gan Brosiect Twristiaeth Gynaliadwy Croeso Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. 

Darperir lluniaeth ysgafn yn ystod y diwrnod agored.

Parcio am ddim.

Ceir rhagor o wybodaeth yn https://findagarden.ngs.org.uk/garden/47223/scolton-manor