Noson o Hud a Dirgelwch Fictoraidd

Camwch yn ôl mewn Amser am Noson o Hud a Dirgelwch Fictoraidd!

Ychwanegu Gweithgaredd at eich Cynlluniwr
Manylion
Dyddiadau Agor
Dydd Gwener 5 Rhagfyr
Amseroedd Agor
6.30 - 9.30pm
Pris
£15

Ymunwch â ni ym Maenordy Scolton am noson swynol o rith a chynllwyn gyda David Hitchcott, y rhithwr rhyfeddol sy’n troi’r meddwl!

Mwynhewch berfformiad bythgofiadwy o hud Fictoraidd yn lleoliad agos-atoch ein maenordy hanesyddol, ynghyd â lluniaeth a chod gwisg dewisol: Fictoraidd, Dirgel a Cain.

Drysau'n agor am 6.30pm

Tocynnau: £15 y pen.  Nifer cyfyngedig o leoedd, argymhellir yn gryf archebu lle ymlaen llaw.

Archebwch eich lle nawr – ffoniwch 01437 731328 i archebu!

Paratowch i gael eich syfrdanu...os meiddiwch chi!