Cewch daith dywys o amgylch y Ganolfan Wenyna a chael cyfle i gael tro mewn gwisg gwenynwr i weld y ffordd mae cwch gwenyn yn gweithredu a chyfarfod â'r gwenyn (os yw'r tywydd yn caniatáu).
Cynhelir y sesiynau rhagflas o 1pm i 3pm a chost y tocynnau yw £10 i oedolion a £7.50 ar gyfer consesiynau (rhaid i bawb sy'n mynychu'r sesiwn fod dros 12 oed).
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly bydd cadw lle ymlaen llaw yn hanfodol. Er mwyn cadw eich lle, cysylltwch â Nikki Caldwell drwy ffonio 01437 731328 neu anfonwch e-bost at [javascript protected email address]
Sylwer: Bydd angen i chi ddod â'ch esgidiau glaw / bŵts hyd llawn eich hun, yn ogystal â menig 'marigold'.