Mae gan ystafell fwyta'r maenordy awyrgylch cynnes a chwaethus sydd â chyfoeth o nodweddion cyfnod sy'n rhoi ymdeimlad o draddodiad a choethder. Wedi'i drwyddedu'n llawn ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil, nid oes lleoliad gwell ar gyfer seremoni agos-atoch a chwaethus ar eich diwrnod arbennig.
O'r fan honno gall yr hwyl lifo allan yn ddi-dor i'r Lawnt Croce ar gyfer derbyniad wedi'i gynllunio’n gyfan gwbl yn unol â'ch dymuniadau. Gellir darparu pebyll mawr, cromenni a thipis wedi’u dodrefnu mewn arddulliau o'ch dewis, gan wneud y lawnt yn gynfas gwag perffaith wrth i chi gynllunio diwrnod a noson sy'n unigryw 'chi'.
Mae pedwar cwadrant yr Ardd Furiog ar gael ar gyfer eich ffotograffau priodas, gan gynnig digonedd o gefndiroedd a nodweddion deniadol gan gynnwys y tŷ pîn-afal hardd, llwybrau graean wedi'u leinio â choed ffrwythau, rhedynfa Fictoraidd, bwa helyg, gwelyau blodau, a cherfluniau cudd.
Ac nid oes angen edrych mewn mannau eraill i ddarparu lluniaeth o'r radd flaenaf y mae'r achlysur yn ei haeddu. Mae Ystafell De Edie wrth law i ddarparu canapés moethus a phrosecco adfywiol ar gyfer derbyniad anffurfiol, neu de prynhawn Prydeinig gyda brechdanau ciwcymbr, sgons cartref ysgafn ac amrywiaeth o ddanteithion moethus eraill.