Close up of a wooden sculpted King Arthur

Mae Cymru'n wlad lle mae hanes a chwedloniaeth yn gymysg â’i gilydd, ac mae llu lliwgar o ddreigiau, brenhinoedd chwedlonol, lladron pen-ffordd a llongddrylliadau bwganaidd yn aros i’ch teulu yn Scolton yn barod i ddod allan o'r coed wrth i chi grwydro o gwmpas.

Darganfyddwch gyfoeth ein llwybr cerfluniau unigryw o weithiau celf gwreiddiol, pob un wedi'i gerfio o foncyffion cyfan gan artistiaid o Gymru a Phrydain, a gomisiynwyd yn 2017 i goffáu 'Blwyddyn Chwedlau' Cymru. Dilynwch y llwybr a awgrymir drwy'r goedwig o gerflun i gerflun, neu crwydrwch yn rhydd a dod o hyd iddynt: y naill ffordd neu'r llall, bydd y teulu cyfan wrth ei fodd yn dod ar draws y lleidr pen-ffordd a'r twyllwr Twm Siôn Cati, y Brenin Arthur a'i gleddyf Caledfwlch (Excalibur), y ci hela ffyddlon trasig Gelert, yr arwres leol Jemima Nicholas, a llawer mwy o eiconau diddorol o hanes a chwedloniaeth Cymru.

Ble alla i ddod o hyd i'r Llwybr Cerfluniau?

Gweld Map a’i Lawrlwytho