Dod â'ch teulu a gwneud ychydig o sŵn!
Cyfleoedd i'r teulu gael hwyl i'r teulu yn Scolton, gan gynnwys yr iard chwarae a'r Llong Môr-ladron, Trên Chwarae Scolton Express, a'n hardal Chwarae Gerddorol llawn offer! Mae'r olaf yn cynnig cyfle i blant ac oedolion fel ei gilydd brofi’r llawenydd o wneud cerddoriaeth yn yr awyr agored, ac mae'n sicrhau y bydd diwrnod eich teulu yn Scolton yn bleser arbennig i'r rhai cerddorol yn eich plith – ac o bosibl yn ddechrau cariad at gerddoriaeth i eraill.
Pibellau Padlo mwy na thri metr o uchder; set o 15 o glychau tiwbaidd y gellir eu chwarae gan hyd at chwe chwaraewr ar y tro; seiloffon pren fertigol y gallwch ei gyrraedd o’r naill ochr a’r llall gan annog rhyngweithio a chydweithredu: dim ond ychydig o'r atyniadau cerddorol yn Scolton yw'r rhain.
Mae'r offerynnau awyr agored ym Mharc Scolton wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer defnydd addysgol, therapiwtig a hamdden. Maent yn addas ar gyfer plant o bob oed, gan gynnwys y rhai ag anabledd neu amddifadedd synhwyraidd.