View of the interior of the tearoom

Wedi'i baratoi'n ffres yn ofalus gyda chynhwysion a chynnyrch lleol sy’n cael eu dewis bob dydd o Ardd Furiog Parc Scolton, mae'r fwydlen yn Ystafell De Edie yn cynnig amrywiaeth o giniawau ysgafn, bagiau picnic a the prynhawn. 

Mwynhewch gacen gartref gyda phaned o de Bragdy Cymreig Edie neu goffi wedi'i wneud â ffa wedi'u rhostio'n lleol i'n rysáit bwrpasol. 

Cafodd Ystafell De Edie ei henwi ar ôl Edith Emily Higgon (1850-1937), gan anrhydeddu ei rôl ganolog wrth greu'r Scolton a welwn heddiw. Mae’r Ystafell De’n parhau traddodiadau o ddefnyddio bwyd lleol, hunangynhaliol sy’n iach ac yn flasus sydd wedi bod yn ganolog i fywyd Scolton ers canrifoedd.

I archebu cinio neu de prynhawn, neu i ofyn am ein pecyn cynllunio digwyddiadau, ffoniwch ni ar 01437 731667. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Barc Maenordy Scolton!