Mae Scolton wedi ymrwymo'n frwd i helpu i greu dyfodol cynaliadwy i Sir Benfro – a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy ddarparu cartref i Gymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro?

Mae Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro, a sefydlwyd yn 1919, yn bodoli i addysgu pobl am gadw gwenyn a’i hyrwyddo, a sicrhau iechyd parhaus poblogaeth gwenyn mêl Sir Benfro er budd cenedlaethau'r dyfodol a'r amgylchedd lleol. 

Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Cefn Gwlad y Tywysog a agorwyd yn 2014, mae'r Ganolfan Wenyna yn cynnwys: 

  • Gwenynfa’r Binwydden, gyda chychod gwenyn byw ar gyfer hyfforddi gwenynwyr
  • Mae arddangosfa Cwch Gwenyn, sydd ymhlith arddangosion diddorol eraill yn cynnwys 'gwe gam wenyn' fyw sy'n trosglwyddo lluniau o un o'r cychod gwenyn 
  • Y Gegin Fêl ar gyfer echdynnu a photelu mêl

Argymhellir i bawb sy’n dod i Scolton ymweld â’r Ganolfan. Ewch yn agos at y wenynfa, dysgwch bethau annisgwyl am y creaduriaid gwych hyn a'u bioleg, a phrynwch fêl ffres a blasus Scolton o'r siop anrhegion!

Ble alla i ddod o hyd i'r Ganolfan Wenyna?

Gweld y Map a’i Lawrlwytho