Maenordy Scolton Maenordy Scolton
Creu cyfrif
English Cymraeg
Beth sydd Ymlaen Parcio Ymweld â Ni Chwilio
Archwilio. Chwarae. Darganfod. Cynllunio Eich Ymweliad Priodasau Dysgu ac Ysgolion Llogwch Ni Gweithio gyda Scolton Amdanom ni
Beth sydd Ymlaen
Digwyddiadau ar y Gweill

Dysgwch fwy am ein digwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd sydd ar y gweill

Darganfod mwy am ein Digwyddiadau sydd ar y Gweill
Vintage car show at Scolton Manor Park
Archwiliwch Weithgareddau Bob Dydd ym Mharc Maenordy Scolton
Parcio

Mae ein taliadau parcio yn datgloi ystod lawn o weithgareddau awyr agored Parc Maenordy Scolton.

Gellir talu taliadau parcio drwy'r ap PayByPhone (rhif lleoliad: 805901), arian parod (peiriant talu ac arddangos) neu gerdyn (drwy'r Siop yr Orsaf pan fyddant ar agor).

Mae pedwar man ailwefru cerbydau trydan ar gael ar y safle yn ein prif faes parcio ger y Ganolfan Groeso.  Mae taliadau parcio arferol yn berthnasol wrth ddefnyddio'r pwyntiau ailwefru ac uchafswm hyd arhosiad yw pedair awr.

Tâl Dyddiol
£6.00
Tocyn Tymor Blynyddol
£35.00
Cyrraedd
Manor House Exterior
Parc Maenordy Scolton
Bethlehem
Hwlffordd
Sir Benfro
SA62 5QL
Cyfarwyddiadau
01437 731328 scolton.enq@pembrokeshire.gov.uk

Amseroedd Agor

Parc a Choetir

Ebrill – Hydref: 9am – 5pm

Tachwedd – Mawrth: 9am – 4.30pm

Maenordy

Ebrill – Hydref yn unig

Bob dydd: 11am – 5pm (os bydd seremonïau sifil yn caniatáu)

Mynediad Olaf am 4.30pm

Tachwedd – Mawrth: Ar agor drwy apwyntiad wedi'i archebu ymlaen llaw yn unig

Canolfan Wenyna

Ebrill – Hydref: 11am – 5pm

Mwynhau Eich Diwrnod

Paratoi ar gyfer eich ymweliad â Maenor Scolton

Hygyrchedd y Safle

Mae'r rhan fwyaf o dir ac adeiladau Scolton yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn gyfeillgar i fygis. Gan fod y Maenordy'n adeilad rhestredig Gradd II* ni fu'n bosibl gwneud newidiadau, a dim ond drwy'r grisiau y gellir cyrraedd y llawr cyntaf a'r mannau yn y seler. 

Mae toiledau i'r anabl a chyfleusterau newid babanod ar gael.

Cyrraedd Yma a Mynd o Gwmpas

Parcio i'r Anabl a Pharcio i Fysiau ar gael.

Mae'r rhan fwyaf o'r safle yn hygyrch drwy lwybrau wedi'u marcio sy'n addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn. 

Mae gennym gadair olwyn ar gael yn y maenordy i'w fenthyg ar sail y cyntaf i'r felin.

Bydd beiciau i oedolion a phlant, yn ogystal â threisiclau hygyrchedd, ar gael i'w llogi o Siop Tufton o fis Mai 2022. 

Noder: gall rhai o'n llwybrau a'n tiroedd fod yn fwdlyd yn dilyn tywydd garw a gall hyn effeithio ar fynediad rhwydd.

Lawrlwythwch y map llawn yma

Archwilio

Beth fyddwch chi ei angen

Dewch â dillad, esgidiau, pethau i’ch amddiffyn rhag yr haul ac ati i gyd-fynd â'r tymhorau os ydych chi'n bwriadu mwynhau ein parc a'n coedwigoedd. Gall tywydd Sir Benfro fod yn anrhagweladwy! 

Dewch â'ch beiciau eich hun i'w defnyddio ar y llwybr beicio coetir a'r trac pwmp, neu gallwch eu rhentu am brisiau rhesymol o Siop Tufton o fis Mai 2022.

Cŵn

Mae croeso i gŵn yn ein tiroedd ar yr amod eu bod yn cael eu cadw ar dennyn.

Caniateir cŵn cymorth yn ein hadeiladau.

Caniateir cŵn ym mannau awyr agored yr ystafell de, ond nid y tu mewn i'r ystafell de ei hun.

Y Ganolfan Groeso

Croeso i'ch stop cyntaf ym Mharc Maenordy Scolton!…

Ystafell De Edie

Mwynhau cynnyrch Sir Benfro wedi'i baratoi'n arbenigol
Bethlehem
Haverfordwest
Pembrokeshire
SA62 5QL
01437 731328 scolton.enq@pembrokeshire.gov.uk
Hysbysiad Preifatrwydd
© Maenordy Scolton 2025 Pembrokeshire County Council. All rights reserved. Maenordy Scolton Gwefan gan Grandad