Nid yw Scolton yn cael ei alw'n galon werdd Sir Benfro am ddim. Mae ein tiroedd a'n coetiroedd wedi'u tirlunio'n ofalus i annog a chefnogi fflora a ffawna lleol, ac maent yn cynnwys pyllau a gwlypdiroedd, dolydd a glannau gwrychoedd, ac ardaloedd coetiroedd sy'n datblygu ac yn aeddfedu. Nid yn unig y mae ein tri phwll yn darparu cynefin gwych ar gyfer amrywiaeth enfawr o rywogaethau: maent hefyd yn gweithredu fel system driniaeth fiolegol ar gyfer dŵr gwastraff y Ganolfan Groeso, gan ei ailgylchu a’i ailgylchredeg a chadw ein hôl troed ecolegol mor isel â phosibl!